Arlington Way
Arlington way syniad pwy oedd e anyway, i aros y nos, trwy'r nos, heb un co
unwaith mewn bywyddaw na freuddwyd yn wir, mi fyddai'n cerdded gyda ti
yn ysgafn fy ngham a lliwiau mhobv man a by ni'n camu mewn drwy'r drws
Arlington Way, cer lawr i'r lle, na fe os ti isie
sa'i byth angen dallt dy fusnes, dim ystryw i mi, dwi'n iawn ar fi hun
ond doedd na neb oedd yn gystal a thi
swllt yn syrthio at y parfin, ac yn troelli yn y man,
sa'i byth yn gwybod heth i ddymuno-pen? ti'n gweld taw (cynffon)... ti y'wr un
unwaith mewn bywyd daw na freuddwyd yn wir mi fyddai'n cerdded mewn da ti,
gyda chalon yn curo a dyddiau da i'w cofio a by ni'n aros mas tan hwyr
wnaeth neb ddweud y byddai n teimlo mor natoriol
dim ystryw i mi, dwi'n iawn ar fy hyn ond doedd na neb oedd gystal â thi
ne ti ddod a dweud fod na lot mwy i'w wneud nac a wyddwn i
but it's not the same... it's not the same, a na'i byth bod mor ffôl
ond does dim amser nawr ar ôl
naeth neb ddweud y byddai'n hawdd naeth neb dweud na ellid ei wneud
neb i ddweud y byddai'n teimlo mor naturiol
Mae Angen Llong Ar Capten
Dwy law yn erfyn a mi ges fy bun ar lannau'r afon Nil
paid edrych lan a phaid edrych i lawr on ir a goll ac on i braidd ar ddi-hun
galwodd rhywun am ambiwlans clywes i'r rhybydd yn uchel a'n ghr
a phlymiais i mewn i'r dwr yn ddwfn ac anelu an y ffin
dyw e ddim mor anodd ar anorfio gydar llif
pan wyt ti ynghanol breuddwydion hâf neu canol dydd
mae angen awel ar longwr er mewn morio drwy dywydd gwael
mae angen awel ar longwr er mwyn hwylio o lan i lan
mae blodau'r Delta'n tyfi'n hadau mae'r gwair yn tyfu'n wyllt
ond ei di fyth i'r nefoedd os arhosi d'in rhy hir os mynni di fyw am byth
mae'n bryd rhoi'r ffidil yn y to, gwnest dy wely meddai'r Capten
ond allai ddim gwneud hyn a ni alla'i wneudy llall os dwi yn gaeth yn Argae Aswann
paid edrych lan a phaid edrych i lawr paid gweneud hwna a phaid gweneud y llall.
Carolina
Nawr ti'n dweud bo ti'n gadael i weld y byd, a gweld y cefnfor maith
wnai ddim crio na na, na byth difaru dim gof yn lle wyt ti chwaith
mae llgad yr haul ar Carolina mae'n disgleirio i lawr ar Tupelo
na'i ofalu am y deryn a'r gwenyn i gyd a naiff fy meddwl ddim crwydro nôl,
ddim crwydro yn ôl atat ti. Ac os ddoi o hyd i ti ar ddiwrnod da
yr awyr yn las, neb i gwyno'n gas yn gadarn a chywir ar ochr y bryn gydag afon yn ei lli a Luciano y ci
os mai dyna ti moy'n, pacia dim fag, s'dim angen nodyn,
cet at t drws,'drycha' nôl am un tro arall tro'r golau mas
cym un cam at y chwith ac un arall at y dde a cherdda i ffwrdd.
Y Corryn ar Pry
Dwi an ddangos paradwys i ti, meddai'r corryn wrth y pry, ti am aros da fi: mynd â chwmpawd drwy'r ddinas
fyddai'n disgwyl na a ti, i ddangod y ffordd dwi am droi y gofod rhyngon a'i wneud e yn gan gradd,
am i ni fod da'n gilydd, wyt ti'n barod am noson fel hon?
os rhoi di bobleth sy gen ti, fe gei di bopeth sy gen i a cchymaint nwy
maen cymryd dau i neud y Tango mae gennym wahaniaethau mowr, ti byth yn gof yn dim,
dwi am droi y gofod rhyngom a'i wneud e yn dan dradd, am i ni fod da'n gylidd,
wyt ti'n barod am noson fel hon? fel hon? fflaau yn fy mhen, fy mer, fy nghalonn, fy enaid,
tyrd yn gosach, gad i mi deimlo dy fysedd arna i, fflamau, fflamau, fflamau.
Y Gwydr Argyfwng
Pam nad wyf fi'n dy gredu pam ti'n dweud dy fod di angen fi?
ti oedd y cyntaf i gyrraedd fel rhyw Twm Sion Cati ag os ma ngho i'n gweithio o hyd
mi o ti'n angel ar y penffordd ond yn ddiafol ar y pentan
o ro tin dda ac y barod... i dynnu pen o'i ysgwyddai a rhoi'r drwg yn y caws
ne nes ti neud? be nes to neud? arhosaf ar fy ochr i or dref
yn ara deg mae mynd ymhell ond calon wan sy'n dod heb ymdrech
a gwydr argyfwng syn galw arna i rhoddaf gic a'i chwalu cofn pawb ar ei domen ei hun
pam nad wyf fi'n dy gredu pan ti'n dweud dy fod ti'n caru fi
gwell peidia dweud y gair bach, gwell pedio meddwl am y peth
a bydd e btth amharu ar neb. Mi wn taw bachgen y wlad wyt ti,
wel, merch y wlad wyf fi, torra di wallt yn hir
dy hyn yn werth dim byd ond d-fe ddawnsiaf wrth adael y ty...
Lleuad Gwener
Daeth Lleuad Gwener yn rhy gynnar fe syrthiais I a gwrthod yn hyn oedd ddim gen I
rhyw gynllun gwael, y gwey'n oer, aros yn hwyr a gwylio sothach ar y teledu
am galon lân fy nhim fy hun, am fwy o graiad o llai o siriad gwan
rhyw gynllun oer, rhy gyflym o hyd. aros yn gwely a gwylio rhaglenni gwag
o hyd ac o hyd yn aros anm y dyddiau da
a hyd ac o hyd yn aros am hwyl gwell na hyn.
I Drive, Adref
Un dydd arall i ffeindio'r amser i sgrifennu rhestr,
i groesi un peth mas wedyn ychwanegu rhywbeth arall
na'i ware'r gitar am funed and dyw e byth yn ddigion a dwi'n gorffen y gân heb ei offen
ac yn cerdded i'r mailbox - des in gyfarwydd a hwnna
a gobeithio bydd na ddim dyledion i dalu,
dwi'n gyrru ffindo llythyren ac yn agor yr amlemn...
Cyfarchion o'r gogledd pam na ddoi di adref?
mae Maine yn oer amser yma'r flwyddyn ond na'i cadw'r tân yn llosgi..
dwi'n gyrru a dwi'n gyrru, tryd adref
Dydd Mercher , a mae'r plant yn ar ysgol, dyma'r diwrnod cyntaf mewn saith mis i
mi fod ar ben fy hyn a sai'n really gwybod beth i neud...
dyma fi'n mynd i siopa. Siopa dim credit yw e le chi'n prynu pethe wedyn mynd a nhw nôl at y siop
syn grêt tan i chi sylweddoli faint o wastraff amser yw'ch bywyd i gyd, am beth i fi'n disgwl?
am rhywun i alw? pwy? o le? wi'n mynd nôl at y car a dwi'n gyrru undrhyw le
o le i le.... o be i beth?
Evelyn
Drwy y coed fe ffeindiodd hi ei ffordd drwy y dail yn araf ei lliwiau hi a drodd. does dim dryll wrth dy
gefn i'th fygwth di nawr: dyw lladd ddim yn gelfyddyd, oriau a wyr cadw rhag lladd dy galon, ei lladd yn
llywr, ac edrychais ar yr haul, sy'n boddir lawr... fe ddoi di a theimaid newydd... Evelyn.
Tryw'r Drych
Os wyt ti am droedio'r ddear hon, paid dweud, cymer bwyll, gad i dy lygaid arfer â'r goleun
Os wyt ti am droedio'r ddear hon, paid dweud, cymer bwyll, gad i dylygaid arfer â'r goleun
dere'n ara deg Os wyt ti am droedio'r ddacar hon, paid siarad, cymer bwyll
yn dy sgidie gwaith, dilyn yr un daith yna'n droeon
dere'n ara deg dere'n ara deg, (dere'n ara deg ataf i),
rho di ben ar fy nghlun, dy groen ar f'un i,
dy wallt fel y frân. Ddu fel y frân na wyddai erioed am y te rfyn.
Awyrennau
Di awyrennau'n gwneud dim byd i mi dim ond dy weld di a dwi mhell bell i fwrdd
cer âfi i'r un cyfeiriad a dwi'n codi i lle danni'n dau'n cwrdd
ac mea'n ffordd hir lawr pan ti mor bell o'r llawr ac yn bradu bob awr
Di awyrennau'n gwneud dim byd i mi dim ond dy weld di a dwi mhell bell i fwrdd
rho rhyw losin melys imi ac fe gei di bob dim sy ar y bwrdd
ista, ymlacia, ewn yn rhydd anghofia dy flinderau am weddill y dydd
at mae'n ffordd hir lawr pan ti mor bell o'r llawr ac yn bradu bob awr
awyren trên a cheir a chychod di-ri, falle âi ero, un-waith
o ddod a thi yn nes i mi, o ddod â thi yn nes.
Orenau i Florida
Mor ddu a'r môr ar brynhawn ystormus
yn corddi fel corwynt yn dy ymyl fe gerddais,
a son am forladron, mewn trefydd newydd morwyr suddedig a llygaid alaeth
ac fe gerddais yn dy ymyl ne imi beidio, nes imi beidio clywed dy lais
orenau i Florida blodau i Amsterdam gwnaiff dydd o dristwch arall
ddim yn helpu deall pam hydd diwrnod arall o ymaladd
ddim yn trochi'r eira, orenau i Florida a moroedd i Galilea
mae'n rhydd cymysgu anrhefn gyda'r bai a'da'ni'n gwneud
mae cariad ym mhob maddeuant, ynysoedd colledig yn arnofio ymhell or lan
milltiroedd a milltiroedd yn arnofio i rywle yn dweud rywbeth ond mae'r ystyr ar goll i fi nawr
orenau i Florida blodau i Amsterdam gwnaiff dydd o dristwch arall
ddim gwneud i fi ddeal pam, diwrnod arall o frwydro a'n cantref newydd yn fflam
orenau i Florida a blodau i Amsterdam.
Y Creyr
Fe ddihunodd creyr ym dyhem am goffi, roedd e hanner ffordd
adre felly arhosodd am sbel i brynu cylchgrawn i wybod popeth wrth ddarllen ei gylchgrawn
Ac fe ddaeth hi fewn fel corwynt o egni yn goesau diderfyn a'n sodlau i gyd
am beth wyt ti'n chwilie? Mae bob dim yma'n fy myd
dyweda be ti moi'n pam ti ar bigau'r drain? gad i fi ddywn y dagrau o dy lygaid
ti'n lico swn gitar wrth i ti grwydro mhobman
wyt ti di bod ir Parthenon? ti di bod i India? ti di bod i Manchester?
Ond ai'r gadael fynd yw'r hyn sy'n bwysig?
Dw I'n gwastraffu oriau yn syllu ar wynebau cylchgronnau
yn esgus taw'r ffasiynau sydd ore, nawr dy fod di'n addor cwbwl I fi
meddianna fi, am i fi brofi blas dy addewid, ond Duw nid oes benadur
Fe wedoedd y creyr dy fod yn y man iawn ti'n lico swn gitar wrth i ti grwydro polman
wyt ti di bod ir Parthenon? ti di bod i Africa? wyt di ti clywed am Salif Keita? ti di bod ar afon y Seine,
a clywed y diafol yn gwaith Skip James? Ond ai'r gadael fynd yw'r hyn sy'n bwysig?
dwi'n gwastraffu oariau ag oriau yn syllu ar wynebau perffaith cylchgronnau
Dw I ddim am godi gwrychyn ond mae'n ffordd rhyfedd i fynd ar drws
gorau yw'r ur sy'n dy gau allan fel y gwynt
cana'r record ac efallai fe ddywedi di riau, fel hen benillion ond y gwir sydd orau
Fe ddisgleiria'r haul yn y gornel dywylla , rhaid gwneud y pethau pwysig yn y fagddu weithiau
Bydd dim diwedd i'r ddefod - na phryn oni bydd angen
ond diawch ferch ti'n gwneud i fi ganu fel hen gytgan.
My incentive is that I will now reward myself by buying her latest album,
Tir (2010), which is a recording of sixteen traditional songs and therefore available in Welsh only.